Mae ein prosiect ymchwil yn rhoi pwyslais penodol ar ystafelloedd dosbarth cynradd is yng Nghymru, gan dargedu plant 5 i 7 oed. Prif nod ein prosiect yw ystyried ac archwilio arferion addysgeg sy’n ymgorffori hawliau cyfranogi gan roi sylw cyson i lais a gweithrediadau plant ifanc.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd creu amgylcheddau dysgu sy’n gynhwysol ac yn grymuso lle gall pobl ifanc gymryd rhan mewn prosesau penderfynu a bod eu lleisiau’n cael eu clywed.

Drwy edrych ar yr arferion addysgeg bresennol mewn ystafelloedd dosbarth cynradd is, byddwn yn ymdrechu i ganfod ffyrdd o integreiddio hawliau cyfranogi mewn gweithgarwch addysgu a dysgu pob dydd. Byddwn yn ymdrechu i hybu diwylliant o ymgysylltu gweithredol, cydweithredu, a gwneud penderfyniadau ar y cyd, i alluogi plant ifanc i gael dylanwad gwirioneddol ar eu profiadau addysgol. 

Ein nod yn y pen draw yw creu amgylcheddau dysgu lle mae lleisiau plant nid yn unig yn cael eu gwerthfawrogi ond hefyd yn cael eu hintegreiddio yn y prosesau addysgu a dysgu. Drwy ganfyddiadau ac argymhellion ein hymchwil, rydym am gyfrannu at bolisi ac arferion addysgol yng Nghymru, y DU a’r gymuned fyd-eang ehangach.