Rydym yn ffodus o gael grŵp cynghori arbenigol sy’n cynnwys unigolion gwybodus dros ben o amrywiaeth o sefydliadau o bob rhan o’r DU ac mae’n cynnwys arbenigwyr o sawl sector, gan gynnwys y byd academaidd, llywodraeth a sefydliadau nid-er-elw ac addysg. Mae’r grŵp cynghori hwn yn chwarae rhan allweddol yn ein prosiect ymchwil, gan gynnig syniadau ac adborth gwerthfawr sy’n pennu cyfeiriad a chanlyniadau ein gwaith.

Mae’r grŵp cynghori’n cwrdd ddwywaith y flwyddyn, gan greu man pwrpasol ar gyfer trafodaethau ystyrlon, cyfnewid gwybodaeth, a gwerthusiad beirniadol o’r prosiect. Mae eu hadborth yn ein helpu i fireinio ein dull ymchwilio, i ganfod heriau posibl, ac i chwilio am ddatrysiadau arloesol. Drwy ymgysylltu â’r grŵp amrywiol hwn o randdeiliaid, rydym yn annog cydweithredu, gwneud ein hymchwil yn fwy perthnasol, a chynyddu ei effaith.

Dr Natalie Canning

Dr Natalie Canning

Y Brifysgol Agored, Uwch Ddarlithydd mewn Plentyndod Cynnar a Chyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Plant

Prif ddiddordebau Natalie yw chwarae plant ifanc a sut y gall chwarae rymuso plant. Mae ei diddordebau mewn hoffterau chwarae plant yn unigryw oherwydd ei phwyslais ar sut y gall diddordebau sy’n cael eu sbarduno gan blant rymuso plant.

Dr Lorna Arnott

Dr Lorna Arnott

Prifysgol Strathclyde, Uwch Ddarlithydd mewn Addysg Plentyndod Cynnar a sylfaenydd a chyd-gynullydd y Gymdeithas Ymchwil Addysg Plentyndod Cynnar Ewropeaidd (EECERA)

Mae Lorna yn ymddiddori mewn profiadau chwarae plant ifanc, yn bennaf mewn cysylltiad â thechnoleg, creadigrwydd a chwarae cymdeithasol.

Professor Carol Robinson

Yr Athro Carol Robinson

Prifysgol Strathclyde (Prifysgol Edgehill gynt), Athro Hawliau Plant

Prif ddiddordebau ymchwil Carol yw lleisiau, profiadau, hawliau a grymuso plant a phobl ifanc. Mae llawer o bwyslais gwaith Carol wedi bod ar ddatblygu gwybodaeth yn ymwneud ag Addysg Hawliau Dynol plant.

Dr Dawn Mannay

Dr Dawn Mannay

Prifysgol Caerdydd, Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol

Mae diddordebau ymchwil Dawn mewn addysg, hunaniaeth, ac anghydraddoldeb. Mae hi hefyd yn rheoli’r gymuned ymarfer ar-lein ExChange: Care and Education ac ExChange: Family and Community.

Dr Bronagh Byrne

Dr Bronagh Byrne

Prifysgol Queens Belfast, Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol a Chyfarwyddwr Rhaglen MSc mewn Hawliau Plant

Mae Bronagh yn Gyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Hawliau Plant a chyd-sylfaenydd y Rhwydwaith Ymchwil Anabledd. Mae arbenigedd ymchwil Bronagh mewn hawliau anabledd rhyngwladol a hawliau plant i bolisi ac ymarfer cenedlaethol gyda phwyslais ar yr UNCRC.

Cez James

Cez James

Met Caerdydd, Uwch Ddarlithydd mewn Ieuenctid a Chymuned

Mae gan Cez yrfa hir mewn gwaith ieuenctid a chymunedol ledled y DU. Mi dreuliodd 24 mlynedd yn Llundain yn gweithio mewn nifer o fwrdeistrefi Llundain Fewnol fel uwch ymarferydd, rheoli ac uwch reoli mewn amrywiaeth o wasanaethau ieuenctid a gwaith cymunedol.

Clara Seery

Clara Seery

Rheolwr Gyfarwyddwr y Central South Consortium

Mae Clara yn Bartner Gwella Ysgolion brofiadol sydd wedi gweithio ag ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig gan helpu ysgolion i gyflwyno amrywiaeth o newidiadau i’r cwricwlwm a’r arweinyddiaeth. Mae hi hefyd wedi gweithio ar y lefel leol a rhanbarthol i ddatblygu darpariaeth ar gyfer dysgwyr EM ac AAY.

Dr Sarah McGeown

Dr Sarah McGeown

Prifysgol Caeredin, Uwch Ddarlithydd

Mae Sarah yn ymddiddori mewn datblygiad darllen, gwahaniaethau rhwng y rhywiau a hunaniaeth ryweddol, gwytnwch meddyliol mewn addysg a chymhelliant ac ymddygiad – i gyd o safbwynt addysgol mewn plant.

Professor Kate Wall

Yr Athro Kate Wall

Prifysgol Strathclyde, Athro Addysg

Mae diddordebau ymchwil Kate yn ymwneud â sut mae dulliau cyfranogol yn hybu sgyrsiau ystyrlon am fetawybyddiaeth rhwng athrawon a myfyrwyr a’r broses ddysgu. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn methodolegau ar gyfer casglu barn myfyrwyr ar y cwricwlwm a dysgu.

Anna Westall

Anna Westall

Plant yng Nghymru, Swyddog Polisi ar gyfer Hawliau Plant

Mae Anna yn gyfrifol am ddatblygu gwaith ym maes cymorth i deuluoedd, blynyddoedd cynnar, gofal plant a hawliau plant. Mae Anna hefyd yn gysylltiedig â rhedeg y Rhwydwaith Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar (CREY).

Averil Petley

Averil Petley

Llywodraeth Cymru, Pennaeth y tîm Dysgu Sylfaen gyda Llywodraeth Cymru

Yn ei rôl gyda Llywodraeth Cymru brif ddiddordebau Averil yw addysg gynnar, llais y disgybl, cynhwysiant, ac effaith anfantais economaidd a chymdeithasol.

Arwen Roberts

Arwen Roberts

Dr Helen Butcher

Dr Helen Butcher

Gaynor Brimble

Gaynor Brimble

Partner Gwella Ysgolion, Blynyddoedd Cynnar

Mae Gaynor yn ymddiddori mewn chwarae plant, ac arsylwi sut y gall chwarae arwain at brofiadau buddiol mewn amgylcheddau sy’n gwerthfawrogi ac yn parchu dewisiadau plant. Yn fwy diweddar mae hi wedi rhoi cyngor proffesiynol i dîm Dysgu Sylfaen Llywodraeth Cymru a’r deunyddiau a gynhyrchwyd ganddynt i helpu i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru i’r plant ieuengaf.

Arwyn Thomas

Arwyn Thomas

Rheolwr Gyfarwyddwr GwE

Cychwynnodd Arwyn ei yrfa fel addysgwr yn ardal Llandudno. Yn ystod ei yrfa mae wedi bod yn bennaeth ysgol, yn swyddog gwella ysgolion ac Arolygydd Ysgolion Ei Fawrhydi. Roedd hefyd yn Bennaeth Addysg yng Ngwynedd, Abertawe a Cheredigion. Yn rhinwedd ei swydd fel Rheolwr Gyfarwyddwr GwE ers ei benodi yn 2017, mae Arwyn wedi bod yn cydweithio’n glos â Llywodraeth Cymru ac OECD.