Rydym yn brosiect ymchwil sy’n cael ei ariannu gan yr ESRC ac sy’n gweithio mewn pedair prifysgol gyda phwyslais ar hawliau cyfranogi plant ifanc mewn lleoliadau cynradd is. Mae gan ein prosiect bedwar cam sydd ar wahân ond yn gydberthynol.

  1. Mae rhan gyntaf ein prosiect yn cofnodi’r sefyllfa bresennol yng Nghymru o ran cyfranogiad mewn addysg gychwynnol athrawon a chyfleoedd dysgu proffesiynol.
  2. Mae rhan dau yn edrych ar brofiadau a gwybodaeth plant am hawliau cyfranogi gan ddefnyddio addysgeg wedi’i ysbrydoli gan Reggio fel sbardun ledled Cymru.
  3. Yn Rhan tri, bydd ein gwaith â phartneriaeth addysg gychwynnol athrawon (ITE) yng Nghymru’n rhoi syniad inni o siwrnai dysgu proffesiynol myfyrwyr ITE ac addysgwyr athrawon o ran datblygu arferion addysgeg sy’n ymgorffori hawliau cyfranogi plant ifanc.
  4. Mae’r bedwaredd ran a’r olaf o’r prosiect yn canolbwyntio ar ledaenu ac ar effaith gyffredinol y gwaith hwn.